Tai Crynion Cymreig (Archaeoleg Rhyngrwyd)

Eleanor Ghey [1], Nancy Edwards [2], Robert Johnston [3] and Rachel Pope [4]

[1] Amgueddfa Brydeinig EGhey@thebritishmuseum.ac.uk, [2] Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor his010@bangor.ac.uk [3] Adran Archaeoleg, Prifysgol Sheffield r.johnston@shef.ac.uk [4] Ysgol Archaeoleg, Clasuron ac Aiffteg, Prifysgol Lerpwl rachel.pope@liv.ac.uk

Crynodeb (English)

Mae'r erthygl yn deillio o broject blwyddyn a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru i gasglu a dadansoddi'r holl dystiolaeth ar gyfer tai crynion o'r cyfnod cynhanesyddol a hanesyddol cynnar a gloddiwyd yng Nghymru. Bydd y set ddata a geir o ganlyniad i hyn yn adnodd ar gyfer ymchwilwyr, a thrwy'r dadansoddiad a geir yn yr erthygl hon, weithredu fel gwrthbwynt pwysig i astudiaethau cyffelyb o rannau eraill o Brydain. Cyflwynir methodoleg y project a thrafodir cyfyngiadau'r data'n fanwl. Roedd y prif anawsterau'n ymwneud â dyddio'r adeiladau a phenderfynu am ba hyd y defnyddiwyd gwahanol adeileddau, a'r gogwydd a grëwyd gan ychydig safleoedd gyda niferoedd mawr o adeileddau wedi eu cloddio.

Bryn Cader Faner, Harlech, Gwynedd (Adrian Chadwick)

Cyflwynir y dadansoddiad a dehongli'r data mewn tair adran: cronoleg, preswyliad a thirwedd, a throsolwg hanesyddol. Mae'r pwyslais ar safleoedd a gloddiwyd yn ddiweddar gyda rheolaeth gronolegol dda wedi ein galluogi i ail-greu'n fwy hyderus hanes preswylio mewn tai crynion yng Nghymru. Mae hyn wedi dangos tra bo i'r ffurf bensaernïol ddechreuadau gweddol gynnar, gyda niferoedd yn dechrau cynyddu ar ôl 1500 CC, ei bod yn bennaf yn nodwedd o dirweddau'r mileniwm cyntaf CC a dechrau'r mileniwm cyntaf OC. Yn ystod y mileniwm cyntaf CC mae aneddiadau wedi eu hadeiladu o goed a cherrig yn gymharol gyffredin, i ddechrau fel safleoedd caeedig ac, yn ddiweddarach, erbyn y cyfnod Rhufeinig, fel aneddiadau agored a chaeedig. Mae hyn yn groes i'r sefyllfa mewn llawer rhan arall o Brydain, lle mae tai crynion, a systemau caeau'n aml, wedi eu dyddio i o leiaf ganol yr ail fileniwm CC ymlaen. Mae yna wahaniaethau amlwg rhwng rhanbarthau'r adeg hon; er enghraifft, mae safleoedd wedi eu hadeiladu o gerrig a chlai yn gyffredin iawn yng ngogledd orllewin Cymru pryd nad oes unrhyw dai crynion o'r cyfnod Rhufeinig i'w cael yn y gogledd ddwyrain.

Bydd y set ddata a ddeilliodd o'r project hwn yn parhau'n adnodd pwysig ar gyfer ymchwilio'n fanylach i'r gwahaniaethau rhanbarthol hyn ac archwilio goblygiadau darganfyddiadau newydd mewn gwaith maes. Bydd hefyd yn fodel ar gyfer trefnu gwybodaeth bellach ar bensaernïaeth aneddiadau ym Mhrydain yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar a'r cyfnod hanesyddol cynnar. Mae'r data craidd ar gael fel cronfa ddata y gellir ei chwilio. Caiff y set ddata lawn ei harchifo gan y Gwasanaeth Data Archeolegol.

Map o'r safle (English)


 NEXT   CONTENTS   HOME 

© Internet Archaeology/Authors URL: http://intarch.ac.uk/journal/issue23/1/welsh_index.html
Last updated: Mon 26 Nov 2007